Cymorth Cyntaf Mewn Argyfwng yn y Gweithle
Bydd y cwrs hwn yn eich arfogi â'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i ddelio â:
* thrychiad
* sioc anaffylactig
* pwl o asthma
* colli gwaed
* cleisiau
* llosgiadau a sgaldiadau
* toriadau a chrafiadau
* diabetes
* gwrthrychau estron
* torasgwrn a datgymalu
* anafiadau i'r pen
* trawiad ar y galon
* gwaedu o’r trwyn
* llwybr anadlu wedi'i rwystro
* gwenwyno
* ffitiau ac epilepsi
* sioc
* anaf i'r asgwrn cefn
* strôc

Mae'r cwrs hefyd yn ymdrin â defnyddio diffibriliwr electronig awtomatig, rôl y person cymorth cyntaf, cofnodi damweiniau, deddfwriaeth, blaenoriaethu’r rhai sydd wedu eu hanafu, CPR a’r ystum adfer.
Y gost yw £75, sy'n cynnwys hyfforddiant wyneb yn wyneb, llawlyfr, tystysgrif, cymorth e-bost ac asesiadau. Mae'r cymhwyster yn ddilys am 3 blynedd ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus ac mae'n bodloni meini prawf diweddaraf yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Bydd angen adnewyddu cyn i'r cyfnod hwn orffen er mwyn cadw’r cymhwyster.
Dyma'r cwrs cymhwyster lefel 3 newydd sy'n rhedeg dros 1 diwrnod llawn gydag asesiad parhaus.
Bydd angen i'r dysgwyr wisgo dillad cyfforddus, sy'n addas ar gyfer symud o gwmpas a phenlinio/gorwedd ar y llawr.
Cyrsiau Nesaf
Saturdays
26 September 2020
5 December 2020
13 March 2021
5 June 2021
25 September 2021
4 December 2021
I wneud cais am y cwrs hwn, cliciwch yma